Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2016
Amser: 09.26 -
09.36
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Paul Davies AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Pumed Cynulliad.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas.
1.3 Cyflwynodd Aelodau'r Pwyllgor a'r swyddogion eu hunain.
2.1 Enwebwyd Dafydd Elis-Thomas i weithredu yn unol ag Adran 10.2 o'r weithdrefn gwynion.
2.2 Nododd yr Aelodau gyfrifoldebau'r Pwyllgor.
2.3 Bu'r Aelodau yn trafod y papur ar fusnes cynnar a chytunwyd:
· Cynnal sesiwn ragarweiniol gyda'r Comisiynydd Safonau presennol a'r Comisiynydd newydd yn nhymor yr hydref;
· Bwrw ymlaen â'r gwaith mewn perthynas â chofrestru dwbl sy'n ymwneud â manylion ariannol;
· Bwrw ymlaen â gwaith mewn perthynas â'r canllawiau i Aelodau ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a materion cynllunio; a
· Bwrw ymlaen â gwaith mewn perthynas â lobïo.
3.1 Cytunodd yr Aelodau i gynnal sesiwn o'r Pwyllgor gyda'r Comisiynydd Safonau yn ystod tymor yr hydref i drafod ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16. Nododd yr Aelodau fod disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar 12 Gorffennaf 2016.